Strict Standards: Declaration of Application_Model_menusTranslation::delete() should be compatible with Doctrine_Record::delete(Doctrine_Connection $conn = NULL) in /home/hhssco/application/models/menusTranslation.php on line 14

Warning: Creating default object from empty value in /home/hhssco/application/modules/frontManagement/controllers/FrontController.php on line 241
Gerddi Lletyol
Text Size - S M L XL

Castell Picton a Gerddi

 

Cafodd Castell Picton ei osod yng nghanol dirwedd Sir Benfro hardd ac yn cael ei amgylchynu gan 40 erw o erddi hirsefydlog. Mae llawer o hyn yn goetir aeddfed sy'n gartref i gasgliad mawr o blanhigion coetir o amgylch y byd gan gynnwys nifer fawr o Rhododendrons, myrtwydd, Magnolia a rhywogaethau conwydd prin. Mae'r rhain wedi cael eu plannu yn sensitif i greu un o'r gorau gerddi coetir yng Nghymru. Mae lawntiau helaeth o amgylch y castell. Yn yr ardd furiog mae amrywiaeth o lluosflwydd llysieuol eclectig, gardd berlysiau, borderi rosod a gardd Môr y Canoldir. Ein Gardd Jyngl ac Ardal Chwarae yn llawn o blanhigion deiliog egsotig.

Rydym yn dal i ddatblygu ac wedi plannu yn ddiweddar hydrangeas yn ardal fawr wrth ymyl coetir parhaol. Yn ein meithrinfa bach rydym yn tyfu planhigion anarferol ar gyfer yr ardd ac ar werth i'n hymwelwyr. Mae'r Gerddi yn cael eu rhedeg gan dîm bach o hyfforddeion yn cael y cyfle i gymryd rhan ym mhob rhan o'r gwaith cynnal a chadw a datblygu'r ardd.

Cyngor Dinas Caerdydd

Parc y Rhath, a agorwyd yn 1894, yw parc cyhoeddus mwyaf poblogaidd Caerdydd

Yn y parc hwn ceir yr ardd Wyllt, llyn 12 hectar, Gardd Fotaneg gyda’i chasgliad o goed a phrysglwyni, lle chwarae a thŷ gwydr, gardd bleser gyda mannau lle gellir chwarae bowls, tennis a phêl fasged, caeau chwarae, ail fan chwarae i blant a llwybr cadw’n heini ym Maes Chwarae’r Rhath.

Hwn oedd parc cyhoeddus cyntaf Caerdydd ac mae’n parhau i addasu ac esblygu. Mae wedi cadw statws y Faner Werdd ers 2002 ac yn ddiweddar mae Grŵp Ffrindiau wedi ei greu i gefnogi adferiad a datblygiad y safle.

Parc hanesyddol 56 hectar yw Parc Bute, wedi ei leoli yng nghanol y ddinas ac mae wedi mwynhau statws y Faner Werdd ers 2008.

Sefydlwyd hwn yn y 1870au fel gerddi pleser y Castell ac mae wedi ei agor i’r cyhoedd ers 1947. Mae ynddo erddi coed, border blodau, safle hanesyddol y BRopdyr Duon, caeau chwarae a choetir eang; dyma hefyd gartref sioe flodau flynyddol yr RHS a meithrinfa blanhigion y Cyngor. Sefydlwyd Grŵp Ffrindiau yn 2011.

Mae prosiect £5.6 miliwn ar y gweill i adfer y tirlun hanesyddol a’r noweddion, gyda chefnogaeth gwerth £3.1 miliwn gan GTL.

Mae’r ddau barc wedi eu nodi fel Parciau Gradd 1 ar Gofrestr Cadw o Barciau a Gerddi Hanesyddol yng Nghymru.

 

Cyngor Dinas Casnewydd

 

Parc Belle Vue, Casnewydd

Ganrif ar ôl ei agor, roedd dirfawr angen adnewyddu Parc Belle Vue.

Yn 1996 penderfynodd CADW roi statws Gradd II ar y pafiliwn, yr ystafelloedd gwydr a’r terasau. Yn 2000 cafodd hyn ei estyn i gynnwys y gerddi, colofnau gatiau, y cabanau a’r tŷ te gwledig.

Yn 1997 comisynodd Cyngor Sir Bwrdeistref Casnewydd arbenigwyr i gyflwyno cynigion ar gyfer adferiad i Gronfa Treftadaeth y Loteri. Yn 2002 rhoddodd y Gronfa honno £1.5 miliwn ar gyfer gwaith adfer Parc Belle Vue.

Dechreuwyd ar y gwaith ym mis Mai 2003. Y bwriad oedd cadw at ac ychwnaegu at gymeriad a nodweddion sylfaenol y parc tra’n parchu cynllun gwreiddiol Thomas Mawson.

Agorwyd y pafiliwn a’r ystafelloedd gwydr yn ffurfiol, ar eu newydd wedd, ar Fedi’r 8fed 2006.

Erbyn hyn mae’r parc yn cynnal rhaglen reolaidd o ddigwyddiadau gan gynnwys cyngherddau, teithiau tywys, a gweithgarwch sydd ynghlwm â’r maes llafur, i ysgolion. Mae’r pafiliwn a’r ystafelloedd gwydr yn cynnig lleoliad ar gyfer dosbarthiadau dysgu i’r gymuned, sgyrsiau, arddangosfeydd, cyfarfodydd, seminarau busnes a seremonïau priodas a phartneriaethau sifil.

Mae darnau eraill o waith a gwblhawyd yn cynnwys adfer clwydi’r parc; plannu’r Ardd Fynachod newydd; ailosod coed; ailblannu yn ardal y rhaeadrau; gosod celfi newydd yn y parc; adfer y teras; gosod rhaeadr newydd; ac ailwampio’r maes parcio.

 

Gardd Aberglasne

 

Saif Tŷ Aberglasne yng nghanol godidowgrwydd dyffryn Tywi, sir Gaerfyrddin ac mae’n gartref i un o’r gerddi harddaf yng Nghymru. Bu Gerddi Aberglasney yn ysbrydoliaeth i feirdd ers 1477. ond er bod stori Aberglasne yn cwmpasu sawl canrif, mae gwreiddiau’r ty yn dal i fod yn ddirgelwch.

Ceir casgliadau dirifedi o blanhigion prin ac anarferol yn y gerddi, gan ei gwneud yn ffefryn ymhlith planhigwyr. Saif coetiroedd naturiol o blanhigion brodol a phlanhigion ecsotig ochr yn ochr â gerddi ffurfiol y tu ôl i furiau. Ceir gerddi cegin, gardd ger y pwll, borderi llysieuol, sawl gardd doredig (parterre), twnnel Ywydd hynafol a’r Ninfarium arobryn – oll yn darparu digon i ymddiddori ynddo gydol y flwyddyn.

 Visit Site

Gardd Bodnant

Prynwyd Gerddi Bodnant yn 1874 a’u gosod cam wrth gam gan Henry Davis Pochin a chenedlaethau o’i deulu wedi hynny, yn ôl eu syniadau pendant hwy o berffeithrwydd. Mae wedi datblygu yn ardd hynod o gyfoethog sydd yn cynnwys popeth ac eto yn hollol gytbwys. Mae graddfa’r ardd a’r rhygyngu gofalus yn gwneud iddi ymddanngos fel safle sydd yn llawn cytgord.

Saif ar oledd sydd yn wynebu’r gorllewin yn bennaf; mae’r lleoliad yn anhygoel o hardd gyda golygfeydd hudolus trwy’r helaethrwydd lliwgar (planted profusion) i ddyffryn Conwy ac Eryri. Islaw’r llethr hwn mae cwm bach dymunol lle rhed yr afon Hiraethlyn ar ei thaith fyrlymus tuag at Afon Conwy. Fan hyn a fan draw gwelir nentydd yn ymwthio drwy ochrau’r ceunant creigiog, gan ychwanegu at synau’r dŵr sydd yn tasgu dros y cerrig.

Ymhlith y coed cynhenid a’r conwydd a blanwyd gan Pochin ceir digonedd o Rosgoed o Tsieina a’r Himalaya. Roedd cyflwyno planhigion, yn enwedig Rhosgoed, a’r gwerthuso, y dethol a’r bridio a ddaw yn sgil hyn, yn rhan bwysig o raison d’etre Bodnant. Heb yr anadl einioes hyn, byddai cymeriad y gerddi yn nychu a marw.

Creadigaeth Henry McLaren yn bennaf - mab hynaf Laura, Arglwyddes Aberconwy - yw’r ardd fel y saif heddiw. Roedd Henry yn arddwr brwd iawn ac yn frwdfrydig dros bob agwedd o weithgarwch garddwriaethol. Dan anogaeth ei fam, un a oedd yn hybu newid ar bob cyfle, rhoddwyd gofal yr ardd yn nwylo Henry a bu’n parhau i’w datblygu am gyfnod o hanner canrif nes ei farw yn 1953. Dyna pryd yr etifeddodd Charles McLaren, trydydd Arglwydd Aberconwy, yr ystad, a bu yntau yn gofalu amdani ac yn ei datblygu am hanner canrif arall.

 

Camp bennaf Henry oedd creu cyfres o derasau carreg sydd yn disgyn yn osgeiddig o’r tŷ. Er ei fod yn blanhigwr gwych, yr hyn roedd Henry yn rhoi ei sylw pennaf iddo, a’r hyn yr oedd yn ystyried fel yr elfen bwysicaf oll, oedd cynllun a’r cynllun oedd yn dod yn gyntaf bob tro.

 

Mae llawer o harddwch Bodnant yn deillio o’r arddulliau gwahanol sydd yn llifo un ar ôl y llall. Mae cyferbyniad enfawr rhwng y terasau gyda’u cynllun ffurfiol ac addurniadau megis adeiladau’r ardd a’r borderi blodau a’r pantle lle’ch gwahoddir i grwydro trwy fwyniannau anffurfiol, ar wahân i ambell gyffryddiad ffurfiol yma ac acw.

Visit Site

 

Gerddi Dyffryn

Mae Gerddi Dyffryn yn ardd gofrestredig Gradd I, gyda chasgliad trawiadol o ystafelloedd gardd, lawntiau ffurfiol, gwelyau planhigion tymhorol, casgliad o gerfluniau a mwy. Mae\'r gerddi hefyd yn cynnwys gardd goed sylweddol, gyda choed o bedwar ban byd.

Un o nodweddion hyfrytaf y gerddi yw’r gyfres o ystafelloedd allanol cysgodol sydd yno, llawer ohonynt wedi eu hamgylchynu gan wrychoedd yw. Mae ystafelloedd allanol yn eithaf cyffredin mewn gerddi Edwardaidd ac yn nodweddiadol o Fudiad Celf a Chrefft y cyfnod.

Roedd Thomas Mawson yn enwog am ddylunio gerddi o’r math yma ac roedd galw mawr am ei wasanaeth gan berchenogion gerddi. Mae esboniad o waith Mawson yn ei lyfr “The Art and Craft of Garden-making”, a gyhoeddwyd ar ddechrau’r 1900au. Mae Gerddi Dyffryn yn ymddangos yn y pumed argraffiad, a gyhoeddwyd yn 1926.

Mae’r gerddi wedi cael eu hadfer yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Y nod yw plannu rhagor o gasgliadau botanegol dros y degawd nesaf.

 Visit Site 

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymruyw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru. Saif ynghanol gerddi godidog Castell Sain Ffagan, y plasty hardd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

O erddi ffurfiol y bonedd i erddi'r bythynnod oedd yn bwydo teuluoedd y gweithwyr, y gerddi yw cyfrinach fwyaf Sain Ffagan, ond yn rhoi syniad go dda i ni am fywydau pobl Cymru drwy hanes.

Mae timau o gadwraethwyr gerddi a garddwyr yn datblygu a gofalu am y gerddi er mwyn sicrhau eu bod nhw'n helpu i ddehongli'r gorffennol drwy gydategu adeiladau hanesyddol yr amgueddfa. Mae pob gardd ar y safle 40 erw, o'r Ardd Rosod cywrain i'r gerddi anffurfiol lleiaf, yn rhan annatod o gasgliadau'r Amgueddfa, ac mae gan bob un ei stori ei hun.

Y gerddi ffurfiol Fictoraidd hwyr/ Edwardaidd o gwmpas Castell Sain Ffagan oedd lloches Iarll Plymouth a'i deulu oedd yn defnyddio'r plasty fel tŷ haf. Mae'r rhodfa o bisgwydd wedi tocio yn arwain o'r pentref i'r gerddi. Mae'r gerddi eu hunain yn cynnwys Gardd Rosod wych, Gardd Eidalaidd, Gardd Flodau, Gardd Iseldirol cywrain a therasau'r castell sy'n edrych allan dros y llynnoedd pysgod.

Mae gerddi’r tai a ail-godwyd ar y safle'n dangos sut mae gerddi domestig wedi datblygu o'r 16eg ganrif hyd heddiw. Mae'r gerddi hyn yn adlewyrchu statws cymdeithasol y bobl oedd yn byw yn y tai. Mae'r planhigion a thechnegau garddio y tu fas yn adlais o'r celfi y tu fewn ac o gyfnod a lleoliad yr adeiladau gwreiddiol.

 Visit Site

Lantra - Pwy ydym ni a beth rydyn ni'n ei gynnig......

Fel Cyngor Sector Sgiliau rydym yn defnogisgiliau ac hyfforddiant i bobl a busnesau yn y sectorau sydd ynghlwm â'r tir a'r amgylchedd.

Corff annibynnol ydym yn y DU dan berchnogaeth a rheolaeth ein diwydiannau.  Rydym yn gwiethio gyda chyflogwyr a llywodraethau y DU i gyflenwi eich anghenion parthed sgiliau a chynhyrchiant.

Yn gwithio yn un o'n diwydiannau?  MAe gwybodaeth gennym i helpu mynd â'ch gyrfa i'r lefel nesaf.

Newydd ddechrau?  Gallwn ddwued wrthych am yrfaoedd a chyfleoedd swyddi yn ein sector.

Diddordeb gennych mewn datblygu eich gweithlu gyda Buddsowddwyr mewn Poble?  GAllwn halpu busnesau yn y sectorau sydd ynghlwm â'r tir a'r amgylchedd yn Lloeger i gyrraedd statws Busddsoddwyr mewn Pobl.

Gallwn eich helpu i gael hyd i'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch gyda Gwobrwyon Lantra, sydd yn darparu ac yn datblygu hyfforddiant a chymwysterau, a gydnabyddir yn genedlaethol, yn ein sector, neu i chwilio trwy ein hadnodd CourseFinder.

  • Rydym yn hyrwyddo'r sector fel gyrfa o ddewis gadarnhaol i bobl ifainc ac oedolion.
  • Rydym yn sicrhau bod gan bobl y sgiliau cywir ar gyfer gyrfaoedd yn ein sector.
  • Rydym yn datblygu partneriaethau effeithlon gyda sefydliadau blaengar ym myd diwydiant, a gyda darparwyr hyfforddiant.  Ar y cyd, rydym yn chwilio am ddatrysiadau cydweithrediadol i gefnogi anghenion sgiliau a busnes.
  • Rydym yn annog pobl i roi gwerth ar a datblygu sgiliau a'r cyfleoedd datblygu sydd ar gael ar eu cyfer.
  • Rydym yn darganfod yr hyfforddiant a'r datblygiad sydd fwyaf perthnasol ar eich cyfer.
  • Rydym yn eich cyfeirio at gyfleoedd cyllido ar gyfer hyfforddiant s sgiliau.
  • Rydym yn gweithio'n galed gyda chyflogwyr i osod y safonau a diffinio cymwysterau er mwyn sicrhau bod ein diwydiannau yn broffesiynol ac o safon fyd-eang.
  • Rydym yn gweithio gyda'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch i gefnogi iechyd a diogelwch yn y gweithle.
  • Mae ein rhaglen ymchwil yn darparu gwybodaeth gadarn a hysbysrwydd i ffurfio polisi a buddsoddiad mewn addysg - edrychwch ar ein hymchwil Asesu Sgiliau.
  • Dyma sut mae dysgu a gyllidwyd yn cyfarfod anghenion ein sector.
  • Rydym yn gwrando arnoch chi ac yn adrodd yn ôl am eich barn fel bod y llywodraeth ac eraill yn clywed.
  • Gyda'ch help chi rydym yn hybu'r sector fel un proffesiynol, gyda thechnoleg uwch ac angenrheidiol ar gyfer economi y DU.
  • Rydym yn defnogi busnesau cystadleuol yr unfed ganrif ar hugain trwy hyrwyddo sgiliau o lefel uchel, gwybodaeth newydd a thechnolegau.
  • Rydym yn helpu pobl i gydnabod pwysigrwydd a gwerth y secotr i'n Cymdeithas.
  • Rydym yn cynnig mynediad i rwydwaith a ddarparwyr hyfforddiant a'n corff atodol Gwobrwyon Lantra, sydd yn darparu hyfforddiant galwedigaethol yn ein sector a gydnabyddir yn genedlaethol.
  • Ac yn fwy diweddar cawsom ein derbyn i gyflwyno Buudsoddwyr mewn Pobl i fusnesau sydd ynghlwm â'r tir a'r amgylchedd yn Lloegr.